Wrth astudio ecsoblaned sy'n cylchynu seren gyfagos, mae serydd yn gwneud darganfyddiad fydd yn trawsnewid syniadau'r byd cyfan am eu lle yn y bydysawd.
Ond os ydynt am gael atebion i'w holl gwestiynau am ZX5491c, bydd rhaid i'r ddynoliaeth ddysgu i gyd-weithio.
Bwriad cyfres Bydoedd Amgen Melin Bapur yw ehangu ystod y llyfrau sydd ar gael yn y Gymraeg ym meysydd ffuglen ddamcaniaethol-sef ffantasi, ffuglen wyddonol, hanes amgen, ac arswyd-drwy gyhoeddi gweithiau newydd a chyfieithiadau, ac ail-gyhoeddi gweithiau y mae eu hapêl yn parhau.
Daw Gerald Coles yn wreiddiol o Middlesex, ond mae wedi byw yng Nghymru ers dros 60 o flynyddoedd. Cyn ymddeol roedd yn Ymgynghorydd Meddygol yn adran Arennol Ysbyty Athrofaol Cymru, ac ers dysgu'r Gymraeg fel oedolyn mae wedi cyfrannu erthyglau ar wyddoniaeth a meddyginiaeth i'r Faner Newydd. Enigma yw ei nofel gyntaf.